Urdd 100th Anniversary

Calendr y Canmlwyddiant

Dathliadau canmlwyddiant yr Urdd

Dyma flas i chi ar galendr dathlu canmlwyddiant yr Urdd. Tamaid i aros pryd yn unig yw’r rhestr hon, felly cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r wefan lle bydd manylion ein dathliadau’n cael eu diweddaru’n gyson.

major events.jpg

Digwyddiadau Mawr

  • Parti Pen-blwydd yr Urdd ar ddiwrnod Cariad @ Urdd ac ymgeisio am ddau deitl Guinness World Records™ – 25 Ionawr
  • Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. 30 Mai – 4 Mehefin
  • Gŵyl o fewn gŵyl Cynlluniau cyffrous i ddatblygu penwythnos olaf Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych wrth gynnal gŵyl o fewn gŵyl - mwy o wybodaeth i’w ddatgelu’n fuan.
  • Gemau Trefol - Dros dridiau ym mis Mehefin (17 - 19) bydd Bae Caerdydd yn cael ei drawsnewid gan ddod â phobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gystadlu yn y campau trefol Olympaidd newydd, gyda chystadlaethau megis BMX a sglefr fyrddio.
  • Cynhadledd #FelMerch 5-6 Mawrth. Cynhadledd i ysbrydoli a grymuso merched rhwng 14 a 25 mlwydd oed.
  • Rygbi 7 bob ochr Urdd WRU - Twrnamaint rygbi ieuenctid mwyaf Cymru mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a gynhelir ar Gaeau Pontcanna, Caerdydd rhwng 4 - 8 Ebrill.
international.jpg

Rhyngwladol

  • Bwriedir dathlu rhannu’r 100fed Neges Heddwch ac Ewyllys Da drwy gyrraedd bob cwr o’r byd. 18 Mai. 
  • Ymweliad Côr yr Urdd i Alabama. Yn 2022 bydd Côr ieuenctid yn cael y cyfle i deithio i Alabama i berfformio, dysgu mwy am hanes hawliau sifil a chanu gospel. Daw’r cyfle yn sgil partneriaeth drawsatlantig yr Urdd gyda Phrifysgol Alabama ym Mirmingham. Y gobaith hefyd yw bydd modd i Gôr Gospel UAB deithio i Gymru er mwyn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
  • Yr Urdd a TG Lurgan - Yn dilyn lansio’r bartneriaeth hon ym mis Mawrth 2020 mae partneriaeth yr Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan o’r Iwerddon yn mynd o nerth i nerth. O fewn wythnos o ryddhau’r gân, gwyliwyd ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solisesef addasiad Cymraeg a Gwyddeleg o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ dros 86,000 o weithiau ar draws ein platfformau, ac o fewn y mis roedd wedi cyrraedd 110,000. Y bwriad yn 2022 yw trefnu fod aelodau o’r Urdd yn mynychu gwersyll cynhyrchu draw yn yr Iwerddon a threfnu ymweliad tebyg yng Nghymru yn ystod yr haf. Cadwch lygad am berfformiadau byw yn ogystal!
  • Norwy - taith arbennig i Norwy i rai o aelodau’r Urdd. Datgelir mwy o fanylion yn fuan.
the arts exhibitations.jpg

Y Celfyddydau ac Adnoddau

 

  • ‘Canrif Syr Ifan’ gan gwmni Mewn Cymeriad

    Beth fyddai Syr Ifan yn feddwl o'r Urdd heddiw? Ganrif ers iddo fo a’i wraig, Eirys, sefydlu’r mudiad cwbl arbennig yma mae llawer wedi newid. Dyma sioe sy’n dychmygu ymateb Syr Ifan ac yn rhoi cyfle i ni ailfyw a bod yn rhan o’r dyddiau cynnar. Dewch i ddathlu pen blwydd yr Urdd yng nghwmni’r dyn ei hun, Syr Ifan ab Owen Edwards. Manylion yma

  • Partner i ŵyl NAFOW yn America - North American Festival of Wales. Fe fydd rhai o enillwyr Eisteddfod T 2021 ac Eisteddfod yr Urdd 2022 yn teithio i gymryd rhan yn yr ŵyl unigryw hon yn Philadelphia fis Medi.
  • Bydd casgliad o adnoddau addysg i ysgolion am waith yr Urdd ar wefan HWB ar gael o fis Ionawr 2022 ymlaen.
working in parnership.jpg

Gweithio mewn partneriaeth

  • Yr Urdd yw prif bartner trydydd sector Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Bydd y côr buddugol yng nghystadleuaeth Côr S.A.T.B. 14-25 oed (Aelwydydd) yn perfformio fel rhan o ddathliadau Tîm Cymru wrth i ni edrych ymlaen at Gemau’r Gymanwlad 2022 a gynhelir ym Mirmingham.
  • Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

    Dathlu'r Urdd
    Arddangosfa o eitemau eiconig o gasgliad y Llyfrgell fydd yn cael ei newid yn rheolaidd yn ystod y canmlwyddiant.
    25/01/2022 tan diwedd 2022

    Neges Heddwch ac Ewyllys Da
    Arddangosfa sy’n dathlu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ar draws degawdau a’i effaith ar hyd a lled y byd.
    18/05/22 - 12/05/23

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd – Cyfle i weld gwrthrychau eiconig sy’n adrodd hanes a dylanwad yr Urdd mewn arddangosfa newydd. Bydd yr arddangosfa yn agor ar 25 Ionawr 2022 ac yn cau 5 Mehefin 2022. Mwy o fanylion yma.
  • Casgliad y Werin Cymru - Rhannwch eich straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol.

    Gweld casgliad yr Urdd.

  • Arddangosfa ar-lein Prifysgol Bangor​​​
residential centcres.jpg

Gwersylloedd

Dyma gyfnod cyffrous yn hanes Gwersylloedd yr Urdd wrth i ni ddatblygu, ehangu a chynnig mwy o brofiadau nac erioed.

  • Agoriad ‘Calon y Gwersyll’ yng Ngwersyll Llangrannog yn dilyn buddsoddiad gwerth £5M. Bydd y datblygiad yn cynnig Neuadd Fwyta newydd sbon, bloc cysgu ychwanegol ac adnoddau newydd i gynnig y gorau i breswylwyr.
  • Pentre Ifan ar ei newydd wedd. Dyma fydd gwersyll amgylcheddol cyntaf Cymru gyda’r nod i sbarduno ac addysgu pobl ifanc i fod yn wybodus ac egwyddorol ynglŷn â’u hamgylchedd ac ysbrydoli eraill i ystyried eu heffaith hirdymor ar newid hinsawdd. Mi fydd y gwaith adnewyddu gwerth £1.2M yn trawsnewid pum adeilad y safle i Wersyll sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn cynnig llety en-suite i 55 person, yn ogystal ag ystafelloedd amlbwrpas, cegin awyr agored, cyfleusterau arlwyo ac ymolchi sy’n defnyddio pŵer solar, gardd-gegin a chyfarpar glampio.
  • Agoriad Canolfan Ddŵr newydd gyda chyfleusterau cyfoes ar safle Gwersyll Glan-llyn.
     
the media.jpg

Y Cyfryngau

  • Fel rhan o’r dathliadau mae cyfres deledu newydd yn cael ei chynhyrchu gan Boom Cymru i S4C. Cyfres fydd yn rhoi cyfle i deuluoedd, grwpiau o ffrindiau, cyd-weithwyr neu berthnasau  i deithio yn ôl mewn hanes i ddegawd gwahanol. Mae’r cwmni teledu yn edrych am bobl i fod yn rhan o’r cynhyrchiad, e-bostiwch llangrannog@boomcymru.co.uk os oes gennych ddiddordeb.
  • Bydd S4C yn darlledu amryw o raglenni drwy gydol y flwyddyn i adlewyrchu hanes, digwyddiadau a dathliadau’r flwyddyn.
  • Mae BBC Cymru yn un o bartneriaid yr Urdd gyda BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn bartneriaid darlledu’r parti pen-blwydd. Bydd y BBC hefyd yn sicrhau arlwy amrywiol i adlewyrchu'r dathliadau drwy gydol y flwyddyn.
     

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am bob digwyddiad dros y misoedd nesaf. Os oes gennych ymholiad penodol gallwch gysylltu â ni helo@urdd.org neu os hoffech drafod cyfleodd phartneriaethau a nawdd cysylltwch â lydiajones@urdd.org

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×