Urdd 100th Anniversary

Casgliad y Werin Cymru

Yr Urdd: o'r gorffennol i'r presennol

Rhannwch eich straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol.

 

Centenary calendar - 1.png

100 mlynedd a mwy! Pwy sy'n cofio'r cyffro a'r nerfau o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd? Neu gael tynnu eich llun efo’r enwog Fistar Urdd? Efallai ichi wneud ffrindiau yng Ngwersylloedd Haf Llangrannog neu gymryd rhan mewn ymarfer adeiladu tîm yng Nglan-llyn? Mae Casgliad y Werin Cymru yn lansio ymgyrch i gasglu straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol.

Mae'r Urdd wedi bod yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg ers 1922, a hoffai Casgliad y Werin Cymru gasglu'r atgofion hyn i'w harddangos ar eu gwefan. Bydd y straeon a'r ffotograffau ar gael i ni, ein cenhedlaeth bresennol, ac yn rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol weld beth roedd eu rhieni, eu neiniau a’u teidiau, neu hyd yn oed hen-neiniau a hen-deidiau yn ei wneud yn ystod eu hamser gyda’r Urdd.

Allwch chi helpu Casgliad y Werin Cymru i adrodd hanes yr Urdd? Anfonwch eich ffotograffau a'ch straeon atynt naill ai drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bost: casgliadywerin@llgc.org.uk

Mae Casgliad y Werin yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’r tri sefydliad partner sy’n arwain y project yw Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gweld casgliad yr Urdd.


Manylion cyswllt Casgliad y Werin Cymru

E-bost: casgliadywerin@llgc.org.uk

Rhif ffon: 01970632500

Trydar: https://twitter.com/casgliadywerin

Facebook: https://www.facebook.com/casgliadywerincymru

Instagram: https://www.instagram.com/casgliadywerin/

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×