Dyma flas i chi ar galendr dathlu canmlwyddiant yr Urdd. Tamaid i aros pryd yn unig yw’r rhestr hon, felly cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r wefan lle bydd manylion ein dathliadau’n cael eu diweddaru’n gyson.
‘Canrif Syr Ifan’ gan gwmni Mewn Cymeriad
Beth fyddai Syr Ifan yn feddwl o'r Urdd heddiw? Ganrif ers iddo fo a’i wraig, Eirys, sefydlu’r mudiad cwbl arbennig yma mae llawer wedi newid. Dyma sioe sy’n dychmygu ymateb Syr Ifan ac yn rhoi cyfle i ni ailfyw a bod yn rhan o’r dyddiau cynnar. Dewch i ddathlu pen blwydd yr Urdd yng nghwmni’r dyn ei hun, Syr Ifan ab Owen Edwards. Manylion yma.
Dathlu'r Urdd
Arddangosfa o eitemau eiconig o gasgliad y Llyfrgell fydd yn cael ei newid yn rheolaidd yn ystod y canmlwyddiant.
25/01/2022 tan diwedd 2022
Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Arddangosfa sy’n dathlu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ar draws degawdau a’i effaith ar hyd a lled y byd.
18/05/22 - 12/05/23
Dyma gyfnod cyffrous yn hanes Gwersylloedd yr Urdd wrth i ni ddatblygu, ehangu a chynnig mwy o brofiadau nac erioed.
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am bob digwyddiad dros y misoedd nesaf. Os oes gennych ymholiad penodol gallwch gysylltu â ni helo@urdd.org neu os hoffech drafod cyfleodd phartneriaethau a nawdd cysylltwch â lydiajones@urdd.org
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now