Wyt ti'n barod am flwyddyn epig?
Mae 2022 yn flwyddyn enfawr i’r Urdd ac rydym eisiau i chi fod yn rhan o ddathliadau ein canmlwyddiant.
Mae gennym ddigwyddiadau a dathliadau lu drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein haelodau, ein cefnogwyr a’n holl ffrindiau ledled y byd.
Ers 1922, mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru i fwynhau profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma fideo sy'n cynnig cipolwg ar y ganrif ddiwethaf.
Rhannwch eich straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol gyda Casgliad y Werin Cymru. Darllen mwy.
4-8 Ebril, 2022
Twrnamaint rygbi ieuenctid mwyaf Cymru mewn partneriaeth â Undeb Rygbi Cymru. Cynhelir ar Gaeau Pontcanna, Caerdydd, 4-8 Ebrill. I gofrestru eich tîm neu am fwy o wybodaeth.
17-19 Mehefin, 2022
Dros dridiau ym mis Mehefin (17-19) bydd Bae Caerdydd yn cael ei drawsnewid gan ddod â phobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gystadlu yn y campau trefol Olympaidd newydd, gyda chystadlaethau megis BMX a sglefr fyrddio.
30 Mai a 4 Mehefin, 2022
Dewch i fwynhau un o wyliau Ieuenctid mwyaf Ewrop a gynhelir rhwng y 30 Mai a 4 Mehefin yn Sir Ddinbych. Dyma gyfle i blant a phobl ifanc Cymru ddathlu a chystadlu mewn amrywiol gystadlaethau. Dewch i fwynhau gyda’r teulu cyfan - mwy o wybodaeth.
Diolch i bawb fu’n rhan o’r ymgais! Mwynhewch uchafbwyntiau’r diwrnod.
Lawrlwythwch dystysgrif i gadw ac i gofio eich ymdrech i dorri Record Byd.
Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgwch am ein hanes yma!
Mae nwyddau arbennig wedi’u lansio i ddathlu ein canmlwyddiant. O grysau-t i boteli dŵr a theganau Mistar Urdd arbennig, mae rhywbeth ar gael i bawb!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now