Wyt ti'n barod am flwyddyn epig?
Mae 2022 yn flwyddyn enfawr i’r Urdd ac rydym eisiau i chi fod yn rhan o ddathliadau ein canmlwyddiant.
Mae gennym ddigwyddiadau a dathliadau lu drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein haelodau, ein cefnogwyr a’n holl ffrindiau ledled y byd.
Ers 1922, mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru i fwynhau profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma fideo sy'n cynnig cipolwg ar y ganrif ddiwethaf.
Rhannwch eich straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol gyda Casgliad y Werin Cymru. Darllen mwy.
6-11 Gorffennaf, 2022
Eleni mi fydd yr Urdd a’r URC yn dychwelyd i draethau Gogledd Cymru ac Ynys y Barri ar gyfer #TagArYTraeth! Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ysgolion cynradd i fwynhau chwarae ar draethau Bae Colwyn, Ynys Môn, Porthmadog ac Ynys Y Barri.
Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd, mae Mainc Mistar Urdd yn teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru, a hyd yn oed i’r Gemau Gymanwlad ym Mirmingham! Mae amserlen ei ymweliadau a gwybodaeth y gystadleuaeth i gael yma.
6 Awst, 2022
Yn ogystal â’r Urdd mae’r Crawshays hefyd yn trio’n 100 mlwydd oed eleni, felly i ddathlu mi fydd y ddau fudiad yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gêm yn Stadiwm Parc Eirias, Bae Colwyn. Bydd mynediad i’r gemau yn rhad ac am ddim a bydd cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau rygbi sy’n cael eu cynnal gan dîm Chwaraeon yr Urdd ac URC. Dyma amseroedd y gemau:
Diolch i bawb fu’n rhan o’r ymgais! Mwynhewch uchafbwyntiau’r diwrnod.
Lawrlwythwch dystysgrif i gadw ac i gofio eich ymdrech i dorri Record Byd.
Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgwch am ein hanes yma!
Mae nwyddau arbennig wedi’u lansio i ddathlu ein canmlwyddiant. O grysau-t i boteli dŵr a theganau Mistar Urdd arbennig, mae rhywbeth ar gael i bawb!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now